SL(5)051 – Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017

Cefndir a diben

Cafodd y Cyngor Gweithlu Addysg (“y Cyngor”) ei gadw mewn bodolaeth gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”). Mae adran 4 o Ddeddf 2014 yn nodi prif swyddogaethau'r Cyngor. Mae adran 5 o Ddeddf 2014 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud Gorchymyn yn gosod rhagor o swyddogaethau ar y Cyngor. Yn unol â hynny, mae'r Gorchymyn hwn yn gosod swyddogaethau ychwanegol ar y Cyngor sy'n ymwneud ag achredu a thynnu achrediad cyrsiau neu raglenni astudio hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol (erthygl 3).

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn drafft hwn.

Craffu ar y rhinweddau

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn drafft hwn (Rheol Sefydlog 21.3(ii): mae'r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad).

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn gosod swyddogaeth ar y Cyngor i fonitro cydymffurfiad y rhaglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon a chyrsiau sydd wedi'u hachredu yn unol â'r "meini prawf achredu".

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn nodi mai ystyr "y meini prawf achredu" yw meini prawf ar gyfer achredu cyfredol neu dynnu achrediad yn ôl, a hynny wedi'i bennu gan Weinidogion Cymru o dan reoliadau a wnaed yn unol ag adran 132 o Ddeddf Addysg 2002. Nid yw'r Rheoliadau cyfredol a wnaed o dan adran 132 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer meini prawf o'r fath.

Fodd bynnag, mae paragraff 1.2 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi y caiff rheoliadau newydd eu gosod os yw'r Gorchymyn hwn yn cael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

26 Ionawr 2017